Heb fod ymhell oddi wrth y fynedfa i’r fynwent, ar yr ochr dde mae bedd y telynor David Roberts. Mae’r garreg fedd yn nodi ei alwedigaeth ac mae telyn wedi ei cherfio arni.
Mae sawl beddargraff diddorol yn y fynwent . Mae beddargraff Peter Hughes yn nodi ei fod yn wneuthurwr offer pysgota. Mae bedd arall yn nodi i’r ymadawedig farw ar Ebrill yr unfed ar ddeg ar hugain, sydd braidd yn rhyfedd gan mai dim ond deg diwrnod ar hugain sydd ym mis Ebrill !
Mae croeso i chi chwilota o gwmpas y fynwent ond os gwelwch yn dda troediwch yn ofalus rhwng y beddau.
Sain gan Bleddyn Hughes